Amdanom ni

Mae Diane a Graham Jackson yn eich croesawu i Gartrefi Gwyliau’r Ficerdy

Mae gennym ni Gartrefi Gwyliau 5 seren yn nhiroedd yr Hen Ficerdy ar gyrion pentref y Bontnewydd ar Wy.

Rydyn ni wedi byw yn y pentref am fwy na 14 blynedd ac agorwyd ein Cartref Gwyliau cyntaf (Tŷ’r Berllan) i westeion 9 mlynedd yn ôl. Tŷ cerrig a adeiladwyd ym 1874 yw Tŷ’r Berllan. Mae’n cynnig llety â steil bwthyn traddodiadol ac mae ei ansawdd uchel, ei gysur a’i losgwr coed wedi denu llawer o westeion i ddod yn ôl dro ar ôl tro dros y blynyddoedd. Agorwyd ein hail Gartref Gwyliau (Tŷ’r Ystafell Ddarllen) ym mis Gorffennaf 2012 ac mae’n cynnig naws fwy cyfoes ond, ar yr un pryd, yr ansawdd uchel a’r moethusrwydd y mae gwesteion yn ei ddisgwyl.

Rydyn ni bob amser wedi uwchraddio a gwella ein cartrefi i ateb disgwyliadau gwesteion a chadw i fyny â gofynion llety 5 seren, ac mae’r ffaith bod gwesteion yn dod yn ôl dro ar ôl tro ac yn ein cymeradwyo mewn adolygiadau ar lawer o wefannau, gan gynnwys Tripadvisor, yn adlewyrchu hyn.

Your cottage is so comfortable and well equipped. The scones, cream and jam and the wine were delicious and we appreciate the time you took to make us feel most welcomed. One week has flown too quick and we hope to return.

Marybeth a David. Los Angeles, Califfornia.

This post is also available in: English