Ar y trên: Dod i Landrindod a naill ai cymryd tacsi sydd wedi’i drefnu ymlaen llaw neu’r gwasanaeth bws X47 sy’n gadael o’r Orsaf Reilffordd. Mae’r siwrnai’n cymryd rhyw 8 munud.
Ar y bws: Mae’r gwasanaeth T4 yn rhedeg o’r Drenewydd i Landrindod, ac mae’r siwrnai’n cymryd rhyw 50 munud. Ar y bws: Mae’r gwasanaeth T4 hefyd yn rhedeg o Gaerdydd i Landrindod, ac mae’r siwrnai’n cymryd rhyw 3 awr.
Dilynwch y dolenni isod i gynllunio’ch siwrnai:
http://www.traveline-cymru.info/
http://www.thetrainline.com/buytickets/
Rhifau ffôn Tacsis lleol
Pro cabs 01597 822877
Adey’s Taxis 01597 822118
Newbridge Taxi Services 01597 860187
Pan fyddwch chi’n cyrraedd y Bontnewydd ar Wy, dilynwch ffordd y B4358 (ag arwydd i Beaulah) sydd ym mhen gogleddol y pentref. Tua 200 llath i lawr y ffordd mae yna ffordd ag arwyddion “Dim Mynediad” ar yr ochr chwith a chyferbyn â hon mae yna lôn fach, ag arwydd llwybr troed. Trowch i mewn i’r lôn ac mae Tŷ’r Berllan trwy’r gât gyntaf ar y chwith; Tŷ’r Ystafell Ddarllen yw’r ail eiddo ar y chwith. Os ydych chi’n methu’r troad ac yn cyrraedd pont yr afon, rydych chi wedi mynd yn rhy bell.
Peidiwch â dibynnu ar eich Llyw Lloeren; bydd yn dod â chi i’n hardal ond nid atom ni.
Yr Ardal o Amgylch
Llandrindod – tref ffynhonnau oes Fictoria yw Llandrindod, dim ond 5 milltir i ffwrdd. Er nad yw’r 3 ffynnon ar agor erbyn hyn, gallwch chi ymweld â hen weithfeydd y ffynnon ym mharc y creigiau lle ceir amgueddfa. Tref fach yw hon, â thair archfarchnad, sef Tesco, Co-op ac Aldi, a nifer o dafarnau a gwestai. Dydd Gwener yw diwrnod marchnad Llandrindod.
Llanfair-ym-muallt – tref fach brydferth yw Llanfair-ym-muallt, ag afon Gwy yn llifo trwyddi. Mae ganddi stryd fawr o siopau lleol a Co-op bach ger yr orsaf betrol. Mae gan Lanfair-ym-muallt lawer o dafarnau a chaffis a lleoedd o ddiddordeb, gan gynnwys y Sinema a’r Theatr. Dydd Gwener yw diwrnod marchnad Llanfair-ym-muallt.
Rhaeadr Gwy – Rhaeadr Gwy yw’r porth i Gwm Elan ac mae’n lle bach prysur. Mae ganddo fwy o dafarnau na siopau, a dwy siop llogi beiciau mynydd. Mae yna Spar mawr, ond nid oes unrhyw archfarchnad, ac mae yna rai siopau lleol diddorol. Mae Rhaeadr Gwy 9 milltir i’r gogledd o’r Bontnewydd ar Wy.
Mae yna lawer o leoedd eraill i ymweld â nhw sydd o fewn cyrraedd rhwydd i’r Bontnewydd ar Wy, er enghraifft Llanwrtyd, sef y dref leiaf ym Mhrydain lle cynhelir y bencampwriaeth snorcelu corsydd a’r ras dyn yn erbyn y ceffyl, a’r Gelli Gandryll, lle cynhelir yr Ŵyl Lenyddol bob blwyddyn; mae yna fwy o wybodaeth i’w gweld yn y ffeil gwybodaeth i dwristiaid.
Rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n mwynhau eich amser yn aros yn Nyffryn prydferth Gwy.
This post is also available in: English